Coeden Jesse

Coeden Jesse
Enghraifft o'r canlynolthema mewn celf Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Coeden Jesse (hefyd Bren Jesse) yn fotiff cyffredin mewn eiconograffeg Gristnogol rhwng y 12fed a'r 15fed ganrif. Mae'n cynrychioli llinach rhwng Jesse, tad y Brenin Dafydd, ac Iesu Grist fel y mae'n ymddangos yn yr Ysgrythur.

Mae darluniau o Goeden Jesse yn seiliedig ar adnod y Beibl - Eseia 11:1:

"Yna y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef."

Yn ffurf fwyaf nodweddiadol y ddelwedd mae Jesse yn gorwedd neu'n cysgu wrth y gwaelod. O'i ystlys y mae boncyff coeden neu winwydden yn esgyn, ei changhennau yn troelli ar bob ochr. Ar y canghennau mae ffigurau sy'n cynrychioli hynafiaid Iesu. Mae'r boncyff fel arfer yn esgyn yn unionwyth i'r Forwyn Fair ac yna Iesu ar y brig. Mae nifer y ffigurau eraill a ddarlunnir yn amrywio'n fawr, yn dibynnu ar faint o le sydd ar gael ar gyfer y dyluniad. Ar brydiau mae pob un o'r 43 cenhedlaeth rhwng Jesse a Iesu sy'n cael eu rhestru yn yr Efengyl yn ôl Luc yn cael eu darlunio, ond fel arfer mae'r detholiad yn llawer llai. Mae Dafydd a Solomon fel arfer yn cael eu cynnwys.

Gall y ddelwedd ymddangos mewn sawl cyfrwng, megis llun mewn llawysgrif goliwiedig, murlun, cerflun, neu ffenestr lliw.


Developed by StudentB